Tydi Bywyd yn Gem

Erthygl ddifyr iawn yn y Guardian heddiw am ffordd newydd o wneud teithio i’r gwaith yn hwyl.

Mae Chromaroma yn defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei hel gan gardiau Oyster i ddyfeidio gem rhyngweithiol newydd. Y ffordd mar’r gem yn gweithio yw eich bod yn dewis y stesion tiwb agosaf atoch chi ac yna ymuno a thim o chwaraewyr eraill sydd o’r un ardal. Fe allwch chi wedyn osod trapiau mewn gwahaonol orsafoedd – unais tiwb, bys neu beiciau – er mwyn tynnu pwyntiau oddi wrth timau eraill ac ychanegu pwyntiau i’ch tim chi.

Mae’n eitha rhyfeddol oherwydd eich bod chi’n chwarae’n unigol wrth fod yn rhan o dim hefyd. Ond mae’n edrych yn hwyl ac mi fyswn i wrth fy modd yn chwarae’r gem petawn i’n byw yn Llundain!

Inigrieddio brand a naratif aml-blatfform

Dwi newydd ddarllen erthygl ddifyr iawn sy’n trafod sut mae cynhyrchwyr eisiau defnyddio’r byd aml-blatfform i adeiladu franchise a rhannu a datblygu’r naratif. Mae’n ddifyr bod pobl yn dechrau sylwi bod gweithio’n aml-blatfform ar ddechrau prosiect yn gallu sicrhau gwell cynulleidfa drwy pre-awareness.

Mae’r term yma’n golygu bod pobl yn gallu rhannu stori cyn i’r ffilm neu raglen deledu gael ei rhyddhau drwy rhyngweithio gyda’r gynulleidfa, sydd yn eu tro, yn rhannu’r profiad gyda’u cyfoedion. Ond beth sydd heb gael ei ddatblygu eto yw ffordd o ddatblygu’r naratif drwy ddefnyddio’r gynulleidfa gychwynnol yma fel ‘sgwennwyr i’r stori.

Dyna beth mae’r erthygl yn ei drafod ac mae’n werth ei darllen

Ymgyrchoedd viral rhyngweithiol gorau erioed

Fe ddos i o hyd i’r linc yma ddoe.

Dwi’n licio’r un The Hero yn rhif un – ofnadwy o glefar.

Be da chi’n feddwl?

Facebook, Burger King ac Ikea

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gwneud ychydig o waith ymchwil ar sut mae cwmniau mawr yn defnyddio Facebook i farchnata a dwi wedi dod o hyd i ddwy enghraifft ofnadwy o ddiddorol.

Y cwmni cynta dan sylw yw Ikea. Pan oedd y cwmni dodrefn yn paratoi i agor siop newydd yn Malmo yn Sweden fe ddefnyddion nhw un o ddarnau mwyaf poblogaidd Faebook – y gallu i dagio lluniau – i greu ymgyrch gafodd sylw dros y byd.

Ar ol agor cyfrif Facebook i reolwr y siop newydd, Gordon Gustavsson, fe wnaethon nhw lwytho lluniau o showrooms Ikea arno. Yna, cafodd ffrindiau Gordon eu hannog i dagio’r eitemau yn y lluniau er mwyn cael cyfle i ennill yr eitem hwnnw. Wrth i bobl drosglwyddo’r neges i’w ffrindiau ac yn y blaen roedd lluniau’n cael eu tagio o fewn eiliadau i gael eu llwytho. Mae’r fideo yma’n dangos sut weithiodd yr ymgyrch.

Mae’r ymgyrch yma wedi cael llawer o glod am ei greadigrwydd a gwreiddoldeb a does dim dwywaith ei fod wedi bod yn ofnadwy o lwyddiannus, nid yn unig ar Facebook ond hefyd drwy’r holl sylw gafodd yr ymgyrach yn y wasg a’r gwobrau ddaeth yn ei sgil. Erbyn diwedd yr ymgyrch roedd pobl yr ochr arall i’r byd wedi clywed am siop Ikea yn Malmo.

Yr ail ymgyrch fues i’n edrych arno oedd un gan Burger King o’r enw “Friend Sacrifice” a dwi’n hoff o hwn oherwydd y ffordd oedd o’n chwarae gydag angen pobl i gasglu gymaint o ffrindiau ag sy’n bosibl ar Facebook. Wedi i rhywun lawrlwytho app Burger King roedd rhaid iddyn nhw ddileu 10 o ffrindiau er mwyn cael Whopper am ddim. Roedd hon yn ymgyrch ofnadwy o lwyddiannus eto a cafodd bron i 250,000 o “ffrindiau” eu dileu mewn chydig mwy na wythnos. Allai ddim ond dychmygu sut fyddwn i’n teimlo petawn i wedi cael fy nileu am fwrger!

Beth sy’n gwneud yr ddau yma’n wahanol yw’r defnydd creadigol maen nhw wedi ei wneud o arferion pobl ar Facebook. Ac oherwydd y gwreiddioldeb mae’r ymgyrch yn gymaint mwy poblogaidd gan fod y wasg a blogwyr fel finna hefyd yn siarad amdanyn nhw ac yn rhoi rhagor o sylw. Ac er bod y cwmniau yma gyda miliynnau i wario ar ymgyrchoedd, mae’n amlwg bod hi’n bosib creu ymgyrch lwyddiannus ofnadwy am ffracsiwn o’r pris drwy edrych a gwneud defnydd o arferion pobl ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Gwnewch y pethau bychain

Dwi wedi bod yn ddistaw iawn ar y blog m’n ddiweddar rhwng gwyliau di-ri a dysgu sut mae chwarae’r harmonica. Rhaid dweud fod y 12 bar blues yn dod yn ei flaen yn ddigon smala.

Ond pa ddiwrnod gwell i ailddechrau’r ‘sgwennu na diwrnod Pethau Bychain sy’n dathlu’r iaith Gymraeg arlein ac yn ceisio annog mwy o bobl i fod yn rhan o’r gymuned. Mae hyn yn ofnadwy o bwysig oherwydd mai ar y we mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud pethau oedden nhw’n draddodiadol gwneud drwy wylio’r teledu, gwrando ar gerddoriaeth neu’r radio a darllen papurau newydd.

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni wedi clywed am ffigyrau gwylio S4C ond mae nifer gwrandawyr Radio Cymru (ond ga’i gymryd y cyfle yma i ddweud pa mor wych ydy rhaglen Rhiniog hefo Huw Stephens ar C2) wedi gostwng yn sylweddol ac felly hefyd cylchrediad y Western Mail. Mae pob agwedd o’r cyfryngau yng Nghymru yn dioddef.

Ond lle mae’r haul yn machlyd mewn un lle, mae’n gwawrio mewn lle arall ac mae heddiw’n gyfle gwych i adeiladu ar bresenoldeb y Gymraeg yn y we fyd eang a gwneud yn siwr ein bod ni ar flaen y gad yn y gwrthryfel technolegol a bod yr iaith ddim yn dioddef o’i herwydd.

Sy’n dod a fi at bwynt arall – pam ar wyneb y ddaear nad oes rhywun wedi gwneud porn Cymraeg eto? Dyna ffordd i ddangos bechgyn yn eu harddegau fod y Gymraeg yn iawn wedi’r cwbl!

ON
O ia, dwi’n heglu hi i Ffrainc am wythnos, felly ma’r aduniad yma rhyngdda’ i a’r blog yn fyr iawn. Ond mai’n dymor ysgol eto felly mi fydd pethau’n callio ar ol i mi ddod nol.

Reu

Cysylltiadau cyhoeddus digidol Gogledd Korea

Oddeutu mis yn ol, fe agorodd wladwriaeth gyfrinachol Gogledd Korea gyfrif You Tube ac erbyn hyn mae ganddyn nhw tua 80 o fideos arno. Nawr, maen nhw wedi mynd gam ymhellach gan agor cyfrif Twitter yn ol yr erthygl yma yn y Guardian.

Mae’r wladwriaeth wedi gwneud hyn fel rhan o ymgyrch PR digidol newydd oherwydd y sylw anffarfiol (haeddianol neu beidio) mae’r wlad yn ei gael gan y wasg orllewinol.

Mae’r wladwriaeth yn enwog am fod yn gaedig a chyfrinachol, a phan mae newyddiadurwyr ffindio ffordd i mewn i’r wlad – fel wnaeth Carole Cadwallader – mae’n rhaid iddyn nhw aros gyda arweinydd drwy’r adeg.

Er mai pwrpas y cyfrif Twitter a YouTube yw i newid meddylfryd estroniaid am y wlad – mae ganddyn nhw un broblem fawr. Ers y chywldro web 2.0, un peth sydd wedi dod i’r amlwg, ac sy’n bwysig iawn, yw bod rhaid bod yn dryloyw. Boed eich bod yn gwmni ceir fel Ford, sy’n cyflogi person i flogio iddyn nhw’n annibynnol o weddill y tim marchnata, neu’n wlad gomiwnyddol, does gan pobl ddim diddordeb nac amser mewn propeganda.

Neis

Newport (Ymerodraeth State of Mind)

Mae ‘na dros 2 filiwn o bobl wedi gweld y fideo yma ers iddo gael ei ryddhau gwta bythefnos yn ol.

Mae’n ddoniol iawn a dwi’m yn synnu ei fod o wedi cael cymaint o hit’s mewn cyn leiaed o amser – ond mae Sam Leith, colofnydd gyda’r Guardian, yn mynd cam yn bellach drwy awgrymu bod y parodi’n well na’r gwreiddiol.

Ond y prif gwestiwn ydi – pwy sydd am wneud un am Port?

App Eisteddfod

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yma eto ond un datblygiad cyffores sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar yw’r app iphone – iSteddfod – sydd wedi cael ei ryddhau gydag amserlen a manylion y digwyddiadau i gyd arno yn ogystal a chynnwys map o’r maes a’r stondinau.

Mae erthygl am yr app ar wefan Golwg 360.

Mae hwn yn ddatblygiad difyr iawn oherwydd er bod cymaint o bobl gyda iphone does dim llawer o app’s Cymraeg neu Cymreig i’w lawrlwytho. Mae’r farchnad am apps yn cynyddu pob mis ac mae’n debyg fod app’s sy’n cyrraedd y 40 mwya poblogaidd yn edrych i greu rhwng $400 – $ 3000 o incwm drwy hysbysebion pob mis.

Wrth gwrs, dyw hi ddim yn debygol iawn y byddai app Cymraeg yn gwneud hyn ond rwy’n hynod falch bod Ambrose Choy ac Edryd Sharpe wedi cael y gweledigaeth o greu hwn. Cyma sydd gan Ambrose i’w ddweud am y fenter ar wefan y BBC.

I’ve always been a great fan of the National Eisteddfod, but always felt that there wasn’t an easy way of accessing all the information in one place when you’re on the move. We started thinking about developing an iphone app for the Eisteddfod after last year’s festival in Bala, and it’s developed from there.

It’s taken a few months, and we’ve worked closely with the Eisteddfod along the way, and I hope that people will find it useful and that they will download the application to use it during the week. We’re excited that we’ve managed to pull off such a unique project in Welsh, and look forward to seeing man y more Welsh language apps coming through over the next few months.

Gyda’r fenter bydd y ddau ohonyn nhw’n siwr o gael dipyn o sylw gan gwmniau a sefydliadau yng Nghymru sy’n gweld app’s fel fordd newydd o hybu a marchnata ac mae hynny yn ei dro yn siwr o wneud lles i’r iaith erth i bobl lawrlwytho app’s Cymraeg ar gyfer yr ugeinfed ganrif a’r hugain.

Prosiect Caersaint yn Gwyl Arall

Dros y penwythnos fe es i fyny i Gaernarfon ar gyfer Gwyl Arall. Roeddwn i’n mynd fyny ar gyfer gem helfa drysor oeddwn i ac Anna – sy’n gwneud cwrs cynhyrchu aml-blatfform hefo fi – wedi ei gynllunio ar gyfer yr wyl.

Roedd y gem wedi ei selio ar nofel Angharad Price – Caersaint – ac roedd rhaid i’r chwaraewyr gerddoed o gwmpas y dre’n chwilio am gliwiau a datrys posau gwahanol.

Er y tywydd diflas fe ddaeth pedwar grwp i herio’r efennau a chymryd rhan yn y gem ac ar ol yr holl baratoi wnaethon ni, methodd y bluetooth oedd yn anfon un o’r cliwiau i ffonau symudol y chwaraewyr.

Ond ar y cyfan dwi’n meddwl bod pobl wedi mwynhau crwydro o gwmpas Caersaint ac mae’n fodel allai gael ei efelychu gyda nofelau Daniel Owen neu Kate Roberts hefyd.

Y tro nesa, hoffwn i wneud rhywbeth gyda ffonau symudol clefar fel yr iphone a buasai’r Eisteddfod yn le gwych i drio rhywbeth fel hyn oherwydd y ffiniau naturiol sydd o gwmpas y maes.

Hoffon ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan a llongyfarch y tim a ddaeth ir’r brig.

Da iawn yn wir!