Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gwneud ychydig o waith ymchwil ar sut mae cwmniau mawr yn defnyddio Facebook i farchnata a dwi wedi dod o hyd i ddwy enghraifft ofnadwy o ddiddorol.
Y cwmni cynta dan sylw yw Ikea. Pan oedd y cwmni dodrefn yn paratoi i agor siop newydd yn Malmo yn Sweden fe ddefnyddion nhw un o ddarnau mwyaf poblogaidd Faebook – y gallu i dagio lluniau – i greu ymgyrch gafodd sylw dros y byd.
Ar ol agor cyfrif Facebook i reolwr y siop newydd, Gordon Gustavsson, fe wnaethon nhw lwytho lluniau o showrooms Ikea arno. Yna, cafodd ffrindiau Gordon eu hannog i dagio’r eitemau yn y lluniau er mwyn cael cyfle i ennill yr eitem hwnnw. Wrth i bobl drosglwyddo’r neges i’w ffrindiau ac yn y blaen roedd lluniau’n cael eu tagio o fewn eiliadau i gael eu llwytho. Mae’r fideo yma’n dangos sut weithiodd yr ymgyrch.
Mae’r ymgyrch yma wedi cael llawer o glod am ei greadigrwydd a gwreiddoldeb a does dim dwywaith ei fod wedi bod yn ofnadwy o lwyddiannus, nid yn unig ar Facebook ond hefyd drwy’r holl sylw gafodd yr ymgyrach yn y wasg a’r gwobrau ddaeth yn ei sgil. Erbyn diwedd yr ymgyrch roedd pobl yr ochr arall i’r byd wedi clywed am siop Ikea yn Malmo.
Yr ail ymgyrch fues i’n edrych arno oedd un gan Burger King o’r enw “Friend Sacrifice” a dwi’n hoff o hwn oherwydd y ffordd oedd o’n chwarae gydag angen pobl i gasglu gymaint o ffrindiau ag sy’n bosibl ar Facebook. Wedi i rhywun lawrlwytho app Burger King roedd rhaid iddyn nhw ddileu 10 o ffrindiau er mwyn cael Whopper am ddim. Roedd hon yn ymgyrch ofnadwy o lwyddiannus eto a cafodd bron i 250,000 o “ffrindiau” eu dileu mewn chydig mwy na wythnos. Allai ddim ond dychmygu sut fyddwn i’n teimlo petawn i wedi cael fy nileu am fwrger!
Beth sy’n gwneud yr ddau yma’n wahanol yw’r defnydd creadigol maen nhw wedi ei wneud o arferion pobl ar Facebook. Ac oherwydd y gwreiddioldeb mae’r ymgyrch yn gymaint mwy poblogaidd gan fod y wasg a blogwyr fel finna hefyd yn siarad amdanyn nhw ac yn rhoi rhagor o sylw. Ac er bod y cwmniau yma gyda miliynnau i wario ar ymgyrchoedd, mae’n amlwg bod hi’n bosib creu ymgyrch lwyddiannus ofnadwy am ffracsiwn o’r pris drwy edrych a gwneud defnydd o arferion pobl ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Mae’r Burger King yn well fel stori ‘sioc’ yn y wasg. Dyna pam dw i’n casáu e!
Ti di weld y wefan Fight Club gan Fox?
Pa fath o ymchwil ydy e? Gwaith neu academaidd?